Trosolwg
Mae fframwaith gwyddoniaeth PISA 2025 yn diffinio'r cymwyseddau sy'n cael eu datblygu gan addysg gwyddoniaeth. Ystyrir eu bod yn ganlyniad addysgol allweddol i fyfyrwyr, er mwyn gallu ymgysylltu â materion gwyddonol, â syniadau sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth, a'u defnyddio i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae'r cymwyseddau gwyddonol yn diffinio'r hyn yr ystyrir ei bod hi'n bwysig i bobl ifanc ei wybod, ei werthfawrogi a gallu ei wneud mewn sefyllfaoedd lle mae angen defnyddio gwybodaeth wyddonol a thechnolegol.
Mae'r fframwaith gwyddoniaeth yn disgrifio tri chymhwysedd gwyddoniaeth ac is-set o dri chymhwysedd gwyddor amgylcheddol. Mae hefyd yn disgrifio'r tri math o wybodaeth sydd eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer y cymwyseddau hyn, y tri phrif gyd-destun lle y bydd myfyrwyr yn wynebu heriau gwyddonol, a'r agweddau ar hunaniaeth gwyddoniaeth yr ystyrir eu bod yn bwysig.
Mae asesiad PISA 2025 yn mesur i ba raddau y mae gwledydd yn paratoi eu myfyrwyr drwy feithrin dealltwriaeth o wyddoniaeth a sut mae gwyddoniaeth yn arwain at wybodaeth ddibynadwy. Mae hyn yn hanfodol i ddinasyddion y bydd angen iddynt wneud penderfyniadau personol gwybodus am ffenomena gwyddonol fel iechyd a'r amgylchedd er mwyn ymgymryd â gweithgareddau fel rhan o'u teuluoedd, eu cymunedau lleol a chymdeithasau ehangach. Mae'n arbennig o bwysig yn y 21ain ganrif wrth i ddynoliaeth wynebu dyfodol ansicr ar ddechrau'r Anthroposen, sef oes lle mae effaith pobl yn newid systemau'r Ddaear yn sylweddol. Felly mae gwybodaeth am wyddoniaeth yn bwysig ar lefelau unigol, rhanbarthol a byd-eang wrth i ni geisio ymdrin â'r effeithiau hyn.